#

Y Pwyllgor Deisebau | 10 Mawrth 2020
 Petitions Committee | 10 March 2020
 
 
 ,Deiseb: Gwelliannau i’r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog
 
  

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-943

Teitl y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i’r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau fod gwelliannau pendant yn cael eu gwneud i’r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog yn dilyn y damweiniau trist a thorcalonnus sydd wedi digwydd yno yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod newid pendant yn cael ei wneud i’r ffordd rhag i drychinebau o’r fath ddigwydd eto.

Y cefndir

Mae cefnffordd yr A487 yn rhan o’r rhwydwaith o gefnffyrdd sy’n cysylltu Abergwaun yn Sir Benfro â gogledd Cymru. Mae map o rwydwaith cefnffyrdd Cymru ar gael yma. Mae’r ddeiseb hon yn cyfeirio at gymal o’r ffordd rhwng Gellilydan a Maentwrog yng Ngwynedd.

Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys yr A487. Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymruyw cynnal a chadw’r A487 i’r gogledd o Aberteifi. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddiogelwch y rhwydwaith cefnffyrdd.

Mae’r Sefydliad Diogelwch Ffyrdd, sef yr elusen sy’n ceisio lleihau nifer yr anafiadau ar ffyrdd y DU, yn bartner yn Rhaglen Asesu Ffyrdd Ewrop (EuroRAP), sy’n gymdeithas nid-er-elw i hybu ffyrdd sy’n fwy diogel. Mae’r Sefydliad Diogelwch Ffyrdd yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ganlyniadau asesiad EuroRAP o ddiogelwch ffyrdd Prydain. Mae’r rhain yn cynnwys mapiau risg ar gyfer y prif ffyrdd ym Mhrydain a all roi syniad i chi o lefel gymharol y risg ar yr A487.

Mae adroddiad EuroRAP ar gyfer y DU yn 2019 yn cynnwys y map risg ar gyfer Cymru ar dudalen 47. Gellir gweld bod yr A487 wedi’i hasesu ar lefel risg isel/ganolig. Disgrifir y fethodoleg ar dudalen 46 fel a ganlyn:

…The risk is calculated by comparing the frequency of road crashes resulting in death and serious injury on every stretch of road with how much traffic each road is carrying. For example, the risk on a road carrying 10,000 vehicles a day with 20 crashes is ten times the risk on a road that has the same number of crashes but which carries 100,000 vehicles.

Er bod yr A487 yn ei chyfanrwydd wedi’i hasesu ar lefel risg isel/ganolig, fel yr amlinellir yn yr erthygl hon yn y cyfryngau, bu nifer o ddamweiniau angheuol ar y cymal o’r ffordd a nodwyd yn y ddeiseb yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae’r llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru at y Cadeirydd, dyddiedig 12 Chwefror 2020, yn nodi bod y gwaith i wella diogelwch yn y lleoliad hwn wedi dechrau ar 3 Chwefror 2020. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

…signing and safety barrier work …[a]… new 40mph speed restriction…[and]…speed measuring equipment.

 Mae’r llythyr hefyd yn amlinellu y bydd gwaith wynebu ffyrdd yn digwydd a bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a ganlyn ar hyn o bryd:

…investigating the nature of the existing surfacing in order to decide on the exact requirements for new surface.

Fel y cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, daeth Gorchymyn Cefnffordd yr A487 (Gellilydan, Gwynedd) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2020 i rym ar 13 Chwefror 2020.

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Er nad yw’r Cynulliad wedi trafod y cymal penodol hwn o’r A487 o’r blaen, mae’r Pwyllgor wedi trafod nifer o ddeisebau sy’n gysylltiedig â chymalau eraill o’r ffordd. Cafodd eich pwyllgor cyfatebol yn y Pedwerydd Cynulliad ddeisebau ar yr A487 hefyd. Mae’r rhain wedi cynnwys deisebau yn ymwneud â gwahanol gymalau o’r ffordd, fel a ganlyn:

§    Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion;

§    Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth;

§    Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau;

§    Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig; a

§    Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio.

 

Yn 2018, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, aelod blaenorol o’r Pwyllgor Deisebau:

…the A487 is one of our big problems in terms of our trunk road network in Wales. The A470 and the A487 together form the north-west to the south routes and, frankly, the A487 is worse than the A470 in terms of the villages it goes through, and it needs addressing.